Pwy ydym ni? A beth ydym yn ei wneud?

‘Rydym yn fudiad sy’n cael ei arwain gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn creu dyfodol diogel a chynaladwy i bawb. Mae Datbygiad Cynaladwy yn ymwneud â chyfarfod ag anghenion y presennol, heb gyfaddawdu ar allu cenhedloedd y dyfodol i gyfarfod â’u hanghenion hwythau. Mae’r Fforwm yn anelu at gyflawni hyn, gan weithio ar dair prif egwyddor: Grymuso, Addysg a Gweithredu.

Grymuso:

Anogir yr aelodau i leisio eu barn ar faterion y maent yn teimlo’n gryf yn eu cylch. Mae’r mudiad yn rhoi llais i’r bobl ifanc hyn; llais sy’n cael ei glywed gan wneuthurwyr penderfyniadau ar bob lefel o gymdeithas a llywodraeth.

Addysg:

‘Rydym yn meddwl ei bod yn bwysig drosben fod pawb yn ymwybodol o ddatblygu cynaladwy a materion cysylltiedig. ‘Rydym yn credu mai addysg gyfoedol (pobl ifanc yn dysgu pobl ifanc) yw’r ffordd orau i ledaenu gwybodaeth yn y tymor hir, ac anelwn at greu adnoddau addysgol a gynhyrchir ac a ddarperir ar gyfer pobl ifanc gan bobl ifanc.

Gweithredu:

‘Rydym yn credu bod datblygu cynaladwy yn gofyn i bob un ohonom weithredu, fel unigolion yn ogystal â fel rhan o’r fforwm. Cyn gweithredu mae’n bwysig i gael addysg a hel gwybodaeth.

‘Rydym yn gweithio ar hyn o bryd ar y prosiect hwn ar Newid Hinsawdd sef ein prosiect mwyaf uchelgeisiol hyd yma.


 شات قطر شات صوتي كام شات سعودي جلسات طرب  بنت ابوي شات صوتي شات كتابي عرب سيد افلام عربي بلياردو دردشه منتدى  قيمزر سعودي كول العاب العاب بنات العاب اطفال شات  billiards