Diwrnod Gweithedu Rhyngwladol i’r Hinsawdd – 350.org

Saturday, October 24th, 2009

Wel, am ddiwrnod! Mae hi i’w weld bod trwy’r holl fyd, mae pobl wedi bod yn rhan o’r symudiad bendigedig mae pawb yn ei alw yn 350.org!

Yn Aberystwyth, lle ‘roeddwn i, treuliom y diwrnod ar y traeth ger y bandstand, yn annog pobl i ‘sgwennu addewid hinsawdd ar fflag, a gafodd ei wneud i mewn i siâp 350 am 3:50yp! Mi oedd yna llawer o bobl yn cymeryd rhan, ac mi hoffwn i, yn bersonol, ddiolch yn arbennig i’r garfan o fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth a daeth i’n helpu i drefnu’r digwyddiad  (ac, wrth gwrs, Anna!).

Aberystwyth 350 event

350 ar draeth Aberystwyth

Yng ngogledd Cymru, penderfynodd grŵp o bobl ddringo Eryri am rhyw rheswm od (3,500 troedfedd -  a ydych chi’n sylwi ar batrwm yn ffurfio eto?) ac i amgylchunnu’r pen. ‘Rwy’n deall bod rhaid i rhai droi yn ôl oherwydd tywydd garw, ond da iawn i’r rhai aeth ‘fyny i’r top! Dyma fideo o ddigwyddiadau’r diwrnod:

Mi fydd yna luniau ar y wefan yn fuan, felly daliwch arno! Hefyd, os ydych chi’n ffeindio eich hunan yn Efrog Newydd ‘nawr, cadwch i wylio’r sgrîn mawr yn Times Square – efallai y cewch chi weld pobl ifanc Cymru yn ymgyrchu dros newid hinsawdd…

Cariad

Cadan x

Leave a Reply


 شات قطر شات صوتي كام شات سعودي جلسات طرب  بنت ابوي شات صوتي شات كتابي عرب سيد افلام عربي بلياردو دردشه منتدى  قيمزر سعودي كول العاب العاب بنات العاب اطفال شات  billiards