Neges gan Llywodraeth Cynulliad Cymru:
Ydych chi’n credu y dylai pobl ifanc gael dweud eu dweud yng Nghymru?
Rydyn ni’n chwilio am 6 o bobl ifanc brwdfrydig rhwng 14 ac 18 oed o bob cwr o Gymru i fod yn Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd ar gyfer 2010.
Bydd pob Hyrwyddwr yn llefarydd ar y newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.
Byddwch yn dangos i bobl yn eich ardal chi, a ledled Cymru, sut y gall pawb wneud eu rhan i helpu Cymru i leihau ei hôl troed carbon.
Bydd gofyn ichi annerch pob math o gynulleidfaoedd drwy lunio blogiau, colofnau mewn papurau newydd a chyfweliadau teledu a radio. Byddwch yn rhan o Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, a byddwch
hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau fel y Sioe Frenhinol.
Byddwn yn rhoi pob cymorth i chi, gan gynnwys mentoriaid a hyfforddiant ar ddelio â’r cyfryngau. Byddwn yn rhoi gwybodaeth ichi ar y newid yn yr hinsawdd i’ch helpu chi hefyd, ond yn y pen draw mynegi eich barn
eich hunan y byddwch chi.
Mae hwn yn ymrwymiad mawr i chi a’ch teulu am flwyddyn, ond fe fyddwch yn elwa llawer arno hefyd.
I weld hanes Hyrwyddwyr 2009 ac am fwy o wybodaeth ynghylch y cystadleuath , ewch i www.cymruoltroedcarbon.gov.uk
Dilynwch ni ar Twitter
10:10
Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd